SL(5)239 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2018
Cefndir a Diben
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (Rheoliadau 2009) yn gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ar gyfer graddau ôl-raddedig yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru yn diwygio Rheoliadau 2009, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau at radd ddoethurol ôl-raddedig a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 4 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018.
Gweithdrefn
Penderfyniad negyddol (cyfansawdd).
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) oherwydd bod yr offeryn wedi'i wneud yn Saesneg yn unig.
Mae Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau yn datgan fel a ganlyn:
…This composite statutory instrument is subject to the negative resolution procedure in the Cynulliad Cenedlaethol Cymru and in the UK Parliament. Given the composite nature of the regulations and that no routine Parliamentary processes exist by which to lay bilingual regulations before Parliament, these Regulations will exceptionally be made in English only…
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2018